Nid oes o fewn i mi i gyd Ond beiau mawr eu grym: Rhaid imi gael dy haeddiant drud, Neu ynte fod heb ddim. Y dyledswyddau goreu'u rhyw, Twyllodrus ynt a gwan: Ac nid oes ond anfeidrol Dduw A all fy nghodi i'r làn. Boed gorsedd gras yn rhydd i mi Tan bob euogrwydd llym, Fel gallwyf orfoleddu'n hyf Ar elynion mawr eu grym. Af at yr orsedd fel yr wyf, Anfeidrol orsedd gras, Datguddiaf yno'm nghlwyfau maith, A'm holl archollion cas. O maddeu 'mai, a chliria'n llwyr F'euogrwydd oll i gyd; Ac na'd im' flino d'Ysbryd mwy, Tra byddwyf yn y byd.William Williams 1717-91 Tôn [MC 8686]: Michael Royal (<1835) gwelir: Af at yr orsedd fel yr wyf Er maint fy llygredd o bob rhyw Fy meiau trymion luoedd maith O Edrych arnaf Arglwydd mawr O maddeu 'mai a chliria'n llwyr O tyred Arglwydd saif wrth raid Wel dyma gyfoeth gwerthfawr llawn |
There is nothing with me But faults of great force: I must get thy costly merit, Or else be without anything. The duties of the best kind, Deceptive they are and weak: And there is only the infinite God Who can raise me up. May the throne of grace be open to me Under all sharp guilt, Thus may I rejoice boldly Over enemies of great force. I will go to the throne as I am, The infinite throne of grace, I will disclose there my vast diseases, And all my hated wounds. O forgive me, and clear completely, All my guilt altogether; And do not let my grieve thy Spirit any more, While ever I am in the world.tr. 2016 Richard B Gillion |
|